Mae AFR yn moderneiddio beth mae’r heddlu wedi bod yn ei
wneud ers canrifoedd mewn ffordd lawer mwy effeithiol ac effeithlon.
Buddiannau AFR
Drwy gyfuno technoleg arloesol a gweithlu medrus rydym bellach yn gallu dod â throseddwyr gerbron y llys yn gynt nag erioed. Mae gan y dechnoleg rôl bwysig i'w chwarae o ran ein helpu i ddiogelu'r aelodau mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.
Adnabod troseddwyr yn gyflymach.
Mae adnabod troseddwyr yn gynt yn gwella ansawdd yr ymchwiliad.
Mae'n rhyddhau adnoddau er mwyn ein galluogi i ddeall ac ymateb i anghenion y gymuned.
Cydbwyso Preifatrwydd A Diogelwch
Heddlu De Cymru oedd yr heddlu cyntaf yn y DU i arestio unigolyn o ganlyniad i ddefnyddio'r dechnoleg yn fyw.
Mae Heddlu De Cymru yn ymwybodol iawn o’r angen am dryloywder wrth dreialu unrhyw dechnoleg newydd er mwyn sicrhau bod ein cymunedau’n deall ac yn y pen draw yn cefnogi’r defnydd ohoni.
Er mwyn sicrhau bod defnyddio’r dechnoleg Adnabod Wynebau yn gymesur ac yn angenrheidiol, rydym wedi datblygu strwythur llywodraethu mewnol cadarn i herio’r defnydd o’r dechnoleg. Mae Heddlu De Cymru hefyd yn rhan o drefniadau llywodraethu cenedlaethol ehangach sy’n craffu ar y defnydd a wneir ohoni ymhellach.
Rydym yn ymwybodol iawn nad yw’r ffaith bod technoleg yn ein galluogi i wneud rhywbeth yn golygu y dylem ei defnyddio’n awtomatig heb roi rhwystrau a gwrthbwysau priodol ar waith.
Rydym yn ymgysylltu ymhellach â chymunedau yn gyson ac rydym yn parhau i ddeall sut y gall y dechnoleg effeithio ar bob agwedd ar y gymuned.
"Er bod technoleg benodol yn bodoli, nid yw'n golygu y byddwn yn ei defnyddio"
SCOTT LLOYD, AROLYGYDD YR HEDDLU

CYFARFOD PWYLLGOR MOESEG
Trafodwyd defnyddio technoleg adnabod wynebau yng nghyfarfodydd Pwyllgor Moeseg Annibynnol Heddlu De Cymru.
Ers mis Ionawr 2017 mae defnyddio technoleg Adnabod Wynebau wedi cael ei ystyried mewn pum cyfarfod o'r Pwyllgor Moeseg Annibynnol.
Y Dyfodol
Rydym yn gweithio tuag at integreiddio technoleg Adnabod Wynebau yn iPatrol ar hyn o bryd, sef cymhwysiad troseddau a chudd-wybodaeth symudol bwrpasol Heddlu De Cymru y gall pob swyddog ei defnyddio.
Mae Heddlu De Cymru wrthi’n gweithio ar gyflwyno technoleg Adnabod Wynebau i’w holl swyddogion drwy gymhwysiad ffonau deallus.
Byddai Adnabod Wynebau’n Awtomataidd yn galluogi swyddogion i gymryd delwedd o unigolyn y gallant ddod ar ei draws a chymharu’r ddelwedd hon â’n cronfa ddata o ddelweddau a dynnwyd yn y ddalfa ac o bobl sy’n agored i niwed.
Caiff y defnydd o’r dechnoleg ei lywodraethu gan weithdrefnau gweithredu safonol a bydd yn destun craffu tebyg i’r hyn a gyflwynwyd ym mhob agwedd arall ar y dechnoleg.
"Mae AFR yn ein galluogi i dreulio mwy o amser yn cadw cymunedau'n ddiogel."
RICHARD LEWIS, DIRPRWY BRIF GWNSTABL
Rydym yn parhau i ddysgu bob tro y defnyddir technoleg Adnabod Wynebau.
Cesglir y gwersi a ddysgwyd ar ôl defnyddio'r dechnoleg sy'n ein helpu ac yn ein galluogi i barhau i fireinio a gwella'r dechnoleg bob tro rydym yn ei defnyddio...
Tuedd Anymwybodol
Rydym wrthi'n ystyried sut y gellir defnyddio'r dechnoleg, ac yn benodol cymhwysiad symudol AFR, i ddiogelu'r unigolion mwyaf agored i niwed â ffocws penodol ar unigolion coll.
Amddiffyn y bobl sydd fwyaf agored i niwed
Rydym wrthi'n ystyried sut y gellir defnyddio'r dechnoleg er mwyn helpu i ddiogelu'r unigolion mwyaf agored i niwed yn ein cymuned.
Cwestiynau Cyffredin
Mae datganiad gan Heddlu De Cymru ynghylch canlyniad yr Archwiliad Cyfreithiol ar gael yn adran newyddion y wefan. Fel arall, mae Cwestiynau Cyffredin ynglyn ag Adnabyddiaeth Awtomatig yr Wyneb a'r archwiliad cyfreithiol ar gael yma: Cwestiynau Cyffredin y Llys Apêl
Fel arfer byddwn yn cael delweddau o'r gronfa ddata o ddelweddau a dynnwyd yn y dalfa a rennir rhwng Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent.
Os nad yw'r system yn gwneud cyfatebiad nid yw eich delwedd yn cael ei chadw.
Defnyddir Lleoli AFR bob amser yn agored a chyn ei ddefnyddio byddwn yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i hysbysebu'r ffaith ein bod yn ei ddefnyddio, yn ystod y broses defnyddir arwyddion. Mae pob cerbyd AFR wedi'i farcio'n glir.
Caiff y ddelwedd ei dileu ar unwaith ar ôl defnyddio'r dechnoleg ac mewn unrhyw achos o fewn 24 awr.
Na, nid yw osgoi camerâu AFR ynddo’i hun yn gyfystyr â sail dros chwilio neu arestio rhywun.
Efallai y bydd swyddog heddlu am siarad â chi er mwyn cadarnhau pwy ydych.
Bydd y swyddog yn esbonio pam mae wedi siarad â chi a lle y bo'n bosibl yn eich gwahodd i weld y dechnoleg. Hefyd, cewch Hysbysiad Preifatrwydd (gweler yr adnodd) a fydd yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi.
Ar ôl adolygu 18 mis o ddefnyddio'r dechnoleg nid oes tystiolaeth i gefnogi'r honiad hwn (gweler adnoddau).
Rhaid i restrau gwylio i'w defnyddio gyda Systemau Adnabod Wynebau Byw (System Adnabod Wynebau Awtomataidd Lleoli) fod yn benodol i weithrediad neu i amcan plismona diffiniedig. Rhaid iddynt fod yn seiliedig ar yr achos cudd-wybodaeth, a adolygwyd cyn pob Defnydd er mwyn sicrhau bod pob delwedd yn bodloni'r meini prawf rheidrwydd a chymesuredd ar gyfer cynhwysiant, ac ni ddylai cyfansoddiad y Rhestr Wylio fod yn ormodol at ddiben y Defnydd o System Adnabod Wynebau Fyw. Mae rhestrau gwylio yn cynnwys yn bennaf unigolion yr amheuir eu bod wedi cyflawni trosedd, y mae'r heddlu yn chwilio amdanynt am fod gwarant i'w harestio, sydd ar grwydr yn anghyfreithlon, neu os oes amodau mechnïaeth, gorchymyn llys neu gyfyngiad arall a fyddai'n cael ei dorri pe byddent yn yr ardal ar adeg y Defnydd o'r dechnoleg. Gallant hefyd gynnwys pobl sydd ar goll yr ystyriwyd eu bod yn peri fwy o risg, neu unigolion i atal risg o niwed iddyn nhw eu hunain neu i eraill. Bydd y teler hwn yn cael ei lywio gan yr achos cudd-wybodaeth – mae defnyddio System Adnabod Wynebau Fyw er mwyn helpu i ddod o hyd i'w lleoliad yn angenrheidiol i reoli'r risg o niwed a nodwyd.