Mae ein proses yn cynnwys chwilio am bobl benodol a ddewisir
yn ofalus ar sail lleoliad ac amser.
Sut Mae Cyfatebau Yn Gweithio
Sut Mae Cyfatebiadau'n Gweithio
Mae algorithm yn mesur nodweddion wynebol.
Gall y system chwilio drwy ddelweddau nad ydynt yn rhai perffaith. Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r canlynol fod yn weladwy:
- LLYGAID
- TRWYN
- SIÂP Y WYNEB
Delweddau â mwy nag un person
Mae gan y system y gallu i adnabod mwy nag un wyneb o fewn delwedd, e.e. os oes gennych ffotograff o dorf mewn gêm bêl-droed neu glwb nos gall y system adnabod mwy nag un person.
Po mwyaf o'r wyneb a welir y gorau oll yw'r canlyniad
Mae’r holl system yn seiliedig ar Algorithm sy’n mesur nifer o nodweddion wynebol a’u pellter o’r llygaid, felly po mwyaf o’r pen sydd ar y ddelwedd y gorau oll yw’r canlyniad
Mae'r system yn dibynnu ar gyfuno technoleg arloesol â gweithredwr profiadol
Rydym yn gallu cyflawni cyfradd llwyddo uchel drwy nodi gweithredwyr sy’n fedrus yn adnabod wynebau sy’n ategu’r dechnoleg.
Rheoli A Chadw Data
Rydym yn hynod ymwybodol o'r angen i gydbwyso preifatrwydd a diogelwch wrth ddefnyddio Lleoli AFR.
DELWEDDAU RHESTR WYLIO, METADATA A THEMPLED BIOMETRIG
DELETED IMMEDIATELY POST DEPLOYMENT IN ANY CASE WITHIN 24 HOURS
RHESTRAU GWYLIO AR GYFER DEFNYDDIO LLEOLI AFR
UNIQUE FOR EACH DEPLOYMENT, WHEN THE DEPLOYMENT IS OVER MORE THAN ONE DAY THEY ARE UPDATED EVERY 24 HOURS.
DELWEDD NAD YW'N RHYBUDD I GYNNWYS TEMPLED BIOMETRIG
NOT RETAINED WITHIN THE APPLICATION
DELWEDDAU WEDI'U CYNNWYS MEWN ADRODDIAD CYFATEBIAD
DELETED IMMEDIATELY POST DEPLOYMENT IN ANY CASE WITHIN 24 HOURS
COF BACH A DDEFNYDDIR I DROSGLWYDDO RHESTR WYLIO O FFOLDER A RENNIR I GYMHWYSIAD AFR
DELETED IMMEDIATELY AFTER WATCHLIST TRANSFER
FFRWD TELEDU CYLCH CYFYNG (DIM SAIN)
31 DAYS
ADRODDIAD CYFATEBIAD
31 DAYS
COFNOD GWEITHREDWR LLEOLI AFR
31 DAYS
Cyfarpar
Gellir defnyddio pob datrysiad dan do a tu allan.
CERBYD AFR SYMUDOL
A ddefnyddir ar gyfer Digwyddiadau Cyhoeddus neu Weithrediadau Cyflym
CAMERA PTZ CLUDADWY
Cynllunio ymlaen llaw ble bydd angen pellter neu opsiynau 360
CAMERA STATIG CLUDADWY
Cynllunio ymlaen llaw, delfrydol ar gyfer mannau cul neu adeiladau.
Cwestiynau Cyffredin
Mae datganiad gan Heddlu De Cymru ynghylch canlyniad yr Archwiliad Cyfreithiol ar gael yn adran newyddion y wefan. Fel arall, mae Cwestiynau Cyffredin ynglyn ag Adnabyddiaeth Awtomatig yr Wyneb a'r archwiliad cyfreithiol ar gael yma: Cwestiynau Cyffredin y Llys Apêl
Fel arfer byddwn yn cael delweddau o'r gronfa ddata o ddelweddau a dynnwyd yn y dalfa a rennir rhwng Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent.
Os nad yw'r system yn gwneud cyfatebiad nid yw eich delwedd yn cael ei chadw.
Defnyddir Lleoli AFR bob amser yn agored a chyn ei ddefnyddio byddwn yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i hysbysebu'r ffaith ein bod yn ei ddefnyddio, yn ystod y broses defnyddir arwyddion. Mae pob cerbyd AFR wedi'i farcio'n glir.
Caiff y ddelwedd ei dileu ar unwaith ar ôl defnyddio'r dechnoleg ac mewn unrhyw achos o fewn 24 awr.
Na, nid yw osgoi camerâu AFR ynddo’i hun yn gyfystyr â sail dros chwilio neu arestio rhywun.
Efallai y bydd swyddog heddlu am siarad â chi er mwyn cadarnhau pwy ydych.
Bydd y swyddog yn esbonio pam mae wedi siarad â chi a lle y bo'n bosibl yn eich gwahodd i weld y dechnoleg. Hefyd, cewch Hysbysiad Preifatrwydd (gweler yr adnodd) a fydd yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi.
Ar ôl adolygu 18 mis o ddefnyddio'r dechnoleg nid oes tystiolaeth i gefnogi'r honiad hwn (gweler adnoddau).
Rhaid i restrau gwylio i'w defnyddio gyda Systemau Adnabod Wynebau Byw (System Adnabod Wynebau Awtomataidd Lleoli) fod yn benodol i weithrediad neu i amcan plismona diffiniedig. Rhaid iddynt fod yn seiliedig ar yr achos cudd-wybodaeth, a adolygwyd cyn pob Defnydd er mwyn sicrhau bod pob delwedd yn bodloni'r meini prawf rheidrwydd a chymesuredd ar gyfer cynhwysiant, ac ni ddylai cyfansoddiad y Rhestr Wylio fod yn ormodol at ddiben y Defnydd o System Adnabod Wynebau Fyw. Mae rhestrau gwylio yn cynnwys yn bennaf unigolion yr amheuir eu bod wedi cyflawni trosedd, y mae'r heddlu yn chwilio amdanynt am fod gwarant i'w harestio, sydd ar grwydr yn anghyfreithlon, neu os oes amodau mechnïaeth, gorchymyn llys neu gyfyngiad arall a fyddai'n cael ei dorri pe byddent yn yr ardal ar adeg y Defnydd o'r dechnoleg. Gallant hefyd gynnwys pobl sydd ar goll yr ystyriwyd eu bod yn peri fwy o risg, neu unigolion i atal risg o niwed iddyn nhw eu hunain neu i eraill. Bydd y teler hwn yn cael ei lywio gan yr achos cudd-wybodaeth – mae defnyddio System Adnabod Wynebau Fyw er mwyn helpu i ddod o hyd i'w lleoliad yn angenrheidiol i reoli'r risg o niwed a nodwyd.