Beth Yw Adnabod Wynebau'n Awtomataidd?
Cydnabyddiaeth wynebau awtomataidd yw meddalwedd sy’n gallu canfod wynebau yn awtomatig mewn delwedd neu fideo a chymharu a chronfa ddata o ddelweddau wyneb.
Caiff ei ddefnyddio’n weithredol i wneud y canlynol:
- Paru CCTV amser real â rhestr wylio o bersonau o ddiddordeb a rhoi gwybod pan gânt eu canfod:
- Cymharu delwedd o safle trosedd (e.e. llun llonydd CCTV) â bas data mawr o ddelweddau megis cyfres o ddelweddau yn y ddalfa.
Sut Mae AFR Yn Gweithio
Mae AFR yn cynnwys dwy ran, Adnabod a Lleoli. Maent yn gweithio gyda'i gilydd er mwyn helpu i chwilio am bobl.
ADNABOD
Mae Adnabod AFR yn ffordd ‘Amser araf’ o ddefnyddio technoleg AFR, gan gymharu lluniau llonydd o unigolion dan amheuaeth anhysbys a phersonau o ddiddordeb, â chronfa ddata o oddeutu 500,000 o ddelweddau o bobl a dynnwyd yn y ddalfa, gan ddychwelyd dros 200 o ganlyniadau.
- CYN DECHRAU DEFNYDDIO AFR ROEDD ADNABOD UNIGOLYN OEDD O DAN AMHEUAETH FEL ARFER YN CYMRYD PYTHEFNOS. GELLIR CAEL YR UN CANLYNIAD AR YR UN DIWRNOD BELLACH.
- MAE’R BROSES YN CYFUNO TECHNOLEG ARLOESOL Â SWYDDOG ADNABOD PROFIADOL I GAEL CYFATEBIAD POSIBL.
- MAE WEDI CAEL EI DDEFNYDDIO I HELPU I ADNABOD CANNOEDD O UNIGOLION O DAN AMHEUAETH LEDLED DE CYMRU AC YN FWY DIWEDDAR I HELPU I ADNABOD YR UNIGOLION MWYAF BREGUS YN EIN CYMUNEDAU.
LLEOLI
Defnydd ‘Amser byw’ o dechnoleg AFR yw Lleoli AFR, sy’n cymharu ffrydiau camera byw o wynebau â rhestr wylio a bennwyd ymlaen llaw er mwyn ‘lleoli’r’ personau o ddiddordeb. Mae hyn yn cynhyrchu cyfatebiadau posibl sy’n cael eu hadolygu gan y gweithredwr/gweithredwyr.
NI CHAIFF WYNEBAU NAD YDYNT YN CYFATEB AG UNIGOLION SYDD AR Y RHESTR WYLIO EU COFIO NA’U CADW.
CAIFF RHESTRAU GWYLIO UNIGRYW EU CREU BOB TRO Y DEFNYDDIR Y SYSTEM.
NI ELLIR ADNABOD POBL NAS CYNHWYSIR AR RHESTR WYLIO.
Terminoleg
Camera sy'n gallu closio, ffocysu a throi o gwmpas 360° yw Camera Pan Tilt Zoom.
Mae hwn yn gamera gosodedig mewn un lleoliad ac ni all y Gweithredwr ei symud.
Mae gweithredwr Adnabod AFR yn credu mai'r un person yw delwedd y chwiliedydd a'r ddelwedd ymgeisiol.
Nifer y rhybuddion anghywir ymhlith yr holl wynebau a welwyd gan y dechnoleg.
Rhyngwyneb ryngweithiol ar y we y gall defnyddwyr ei ffurfweddu i roi cipolwg ar wybodaeth am yr unigolion diweddaraf i'w beru a defnyddio rhai elfennau ffurfweddu o'r cynnyrch.
Delwedd lonydd o berson anhysbys a brosesir gan y dechnoleg AFR.
Delwedd o berson mewn rhestr wylio
Nifer y fframiau y gellir eu dadansoddi gan dechnoleg AFR yr eiliad. Mae fframiau yr eiliad yn ogystal ag wynebau fesul ffrâm yn hafal i'r wynebau y gellir eu gweld gan y dechnoleg yr eiliad.
Swyddog neu aelod o staff Heddlu De Cymru sydd wedi'i bennu i weithredu'r dechnoleg AFR. Ni fydd gweithredwyr yn gallu gweld unrhyw Restr Wylio sydd wedi'i chadw oni bai bod Rhybudd
Mae'r term hwn yn cynnwys pobl y mae'r heddlu'n chwilio amdanynt mewn perthynas â gwarantau a phobl sydd dan amheuaeth am gyflawni troseddau penodol. Gall hefyd gynnwys pobl ar goll a phobl sy'n agored i niwed (e.e. dioddefwyr dementia) ac at ddibenion cudd-wybodaeth.
Mae'r Rhestr Wylio'n darparu system i grwpio unigolion.
Hysbysiad a ysgogir gan dechnoleg Lleoli AFR pan gaiff cyfatebiad posibl ei wneud. Yna caiff y rhybudd hwn ei ddangos i'r gweithredwr.
Cyfatebiad a gynigir gan y dechnoleg AFR a dybir yn anghywir gan y gweithredwyr.
Gall defnyddwyr cael eu pennu i un neu fwy o Rolau. Pecyn o hawliau yw Rôl, sy'n caniatáu mynediad at nodweddion y rhaglen AFR.
Wrth gynnal cymariaethau, mae'r dechnoleg AFR yn sgorio cyfatebiadau posibl ar sail eu tebygrwydd.
Fel rheol mae dau swyddog sy'n cael eu dyrannu i leoliad lleoli AFR Locate unigol (fan). Gall gweithredwyr anfon timau ymyrraeth i atal unigolion lle maen nhw'n credu bod cyfatebol a gynhyrchir gan y system AFR yn wir gadarnhaol.
Nifer y wynebau y gellir eu dadansoddi gan y dechnoleg fesul ffrâm
Lleoliadau
PAST DEPLOYMENTS
dyddiad | Digwyddiad | Hysbysiadau | Wyneb a Welwyd | |
---|---|---|---|---|
22/01/2020 | Slipknot | 1 | 0 | Gweld Manylion Llawn |
12/01/2020 | Cardif City v Swansea City | 0 | 0 | Gweld Manylion Llawn |
27/10/2019 | Swansea City v Cardiff City | 0 | 0 | Gweld Manylion Llawn |
28/09/2019 | The Elvis Festival | 0 | 0 | Gweld Manylion Llawn |
27/09/2019 | The Elvis Festival | 0 | 0 | Gweld Manylion Llawn |
Cwestiynau Cyffredin
Mae datganiad gan Heddlu De Cymru ynghylch canlyniad yr Archwiliad Cyfreithiol ar gael yn adran newyddion y wefan. Fel arall, mae Cwestiynau Cyffredin ynglyn ag Adnabyddiaeth Awtomatig yr Wyneb a'r archwiliad cyfreithiol ar gael yma: Cwestiynau Cyffredin y Llys Apêl
Fel arfer byddwn yn cael delweddau o'r gronfa ddata o ddelweddau a dynnwyd yn y dalfa a rennir rhwng Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent.
Os nad yw'r system yn gwneud cyfatebiad nid yw eich delwedd yn cael ei chadw.
Defnyddir Lleoli AFR bob amser yn agored a chyn ei ddefnyddio byddwn yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i hysbysebu'r ffaith ein bod yn ei ddefnyddio, yn ystod y broses defnyddir arwyddion. Mae pob cerbyd AFR wedi'i farcio'n glir.
Caiff y ddelwedd ei dileu ar unwaith ar ôl defnyddio'r dechnoleg ac mewn unrhyw achos o fewn 24 awr.
Na, nid yw osgoi camerâu AFR ynddo’i hun yn gyfystyr â sail dros chwilio neu arestio rhywun.
Efallai y bydd swyddog heddlu am siarad â chi er mwyn cadarnhau pwy ydych.
Bydd y swyddog yn esbonio pam mae wedi siarad â chi a lle y bo'n bosibl yn eich gwahodd i weld y dechnoleg. Hefyd, cewch Hysbysiad Preifatrwydd (gweler yr adnodd) a fydd yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi.
Ar ôl adolygu 18 mis o ddefnyddio'r dechnoleg nid oes tystiolaeth i gefnogi'r honiad hwn (gweler adnoddau).
Rhaid i restrau gwylio i'w defnyddio gyda Systemau Adnabod Wynebau Byw (System Adnabod Wynebau Awtomataidd Lleoli) fod yn benodol i weithrediad neu i amcan plismona diffiniedig. Rhaid iddynt fod yn seiliedig ar yr achos cudd-wybodaeth, a adolygwyd cyn pob Defnydd er mwyn sicrhau bod pob delwedd yn bodloni'r meini prawf rheidrwydd a chymesuredd ar gyfer cynhwysiant, ac ni ddylai cyfansoddiad y Rhestr Wylio fod yn ormodol at ddiben y Defnydd o System Adnabod Wynebau Fyw. Mae rhestrau gwylio yn cynnwys yn bennaf unigolion yr amheuir eu bod wedi cyflawni trosedd, y mae'r heddlu yn chwilio amdanynt am fod gwarant i'w harestio, sydd ar grwydr yn anghyfreithlon, neu os oes amodau mechnïaeth, gorchymyn llys neu gyfyngiad arall a fyddai'n cael ei dorri pe byddent yn yr ardal ar adeg y Defnydd o'r dechnoleg. Gallant hefyd gynnwys pobl sydd ar goll yr ystyriwyd eu bod yn peri fwy o risg, neu unigolion i atal risg o niwed iddyn nhw eu hunain neu i eraill. Bydd y teler hwn yn cael ei lywio gan yr achos cudd-wybodaeth – mae defnyddio System Adnabod Wynebau Fyw er mwyn helpu i ddod o hyd i'w lleoliad yn angenrheidiol i reoli'r risg o niwed a nodwyd.